Aberystwyth University
Aberystwyth University
Ymunwch ag Adran Y Gymraeg ar gyfer y gyfres ‘Aber yn Adolygu’. Bydd y digwyddiadau hwyliog hyn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gael tanio’u dychymyg gan ddarlithwyr o’r radd flaenaf.Cynlluniwyd y sesiynau i gyfoethogi’u hastudiaethau cyfredol wrth roi blas ar y math o brofiad academaidd a gynigir gan y Brifysgol. at Aberystwyth University

University Event


Live Webinar (Welsh Medium): Cymraeg - Awdlau’r ‘Gododdin’ gan Aneirin

University event offered by Aberystwyth University

Event Summary:

Ymunwch ag Adran Y Gymraeg ar gyfer y gyfres ‘Aber yn Adolygu’. Bydd y digwyddiadau hwyliog hyn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gael tanio’u dychymyg gan ddarlithwyr o’r radd flaenaf.Cynlluniwyd y sesiynau i gyfoethogi’u hastudiaethau cyfredol wrth roi blas ar y math o brofiad academaidd a gynigir gan y Brifysgol.

Full Event Details:

Mae cerddi’r bardd Aneirin yn mynd â ni’n ôl i’r cyfnod cynharaf yn hanes yr iaith Gymraeg ac i Brydain wahanol iawn i’n dyddiau ni. Dewch ar daith yn ôl i’r chweched ganrif, pan oedd y Saeson yn newydd ddyfodiaid ar ynys Prydain ac yn brwydro i ennill eu lle yn erbyn y brodorion. Iaith y brodorion hynny oedd Cymraeg, ond nid yng Nghymru roedd Aneirin yn byw, ond yn yr ardal ry’n ni’n ei galw heddiw’n dde’r Alban …

Byd caled a rhyfelgar yw byd y ‘Gododdin’, sef casgliad o gerddi er cof am ryfelwyr dewr a fu farw’n ymladd yn erbyn y Saeson. Yng nghrefft Aneirin, daw’r rhyfelwyr yn ôl yn fyw, a’u harfau’n disgleirio gan waed.

Bydd y sesiwn hon yn taflu goleuni ar y cerddi eiconig hyn ac yn ein galluogi i ddarllen Cymraeg hynafol iawn drwy lygaid heddiw.

Suitable For:

Bookings by Teachers for Key Stage 5 (Students aged 16-18)
Individuals (Enquiry not required to be through a school)
Teachers (CPD)
Parents
Families

Duration:

Short Session



Social Sharing:


 
Career Development Institute
Careers England
 
The Education Resources Awards
 
Best use of Tech in Career Development
Shell LiveWIRE Winner
 
Cookie Policy    X