Short Session
Delivered online
Yn y gweminar yma, byddwn yn cyflwyno negeseuon allweddol ynglyn â’n rhaglennu nyrsio yn y maes oedolion ac iechyd meddwl. Mi fyddwn yn trafod themâu sydd wedi eu hanelu i’ch cynorthwyo i benderfynu ar yrfa mewn nyrsio a sut i baratoi eich cais.
Suitable for
Bookings by Teachers for Key Stage 4 (Students aged 14-16)
Bookings by Teachers for Key Stage 5 (Students aged 16-18)
Individuals (Enquiry not required to be through a school)
Teachers (CPD)
Parents
Families
Full event details
Yn benodol, bydd y gweminar yn:
-Trafod gyrfa nyrsio gyda chi o fewn meysydd nyrsio oedolion ac iechyd meddwl; byddwn yn archwilio opsiynau niferus o weithio o fewn y sector nyrsio ac edrych ar beth gall Prifysgol Aberystwyth ei gynnig i chi. Fel nyrs gofrestredig, gallwch fwynhau gyrfa eang, amrywiol a foddhaol er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau cleifion, defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd.
-Rhoi syniadau a chyngor i chi ynglyn â sut i ysgrifennu datganiad personol. O fewn y proses ceisio yn UCAS, eich datganiad personol bydd yr unig gyfle i chi werthu eich hunan a pherswadio’r Brifysgol i ddewis chi dros ymgeiswyr eraill. Mae Tiwtoriaid Mynediad yn darllen canoedd o ddatganiadau personol bob blwyddyn, felly mae’n bwysig ei fod yn gywir ac yn sefyll allan – am y rhesymau cywir, wrth gwrs!
-Edrych ar sut i baratoi am ddigwyddiad dewis myfyrwyr o fewn y Brifysgol, a beth i ystyried o flaenllaw, sy’n cynnwys cyngor ar ddeunydd darllen. Mi fyddwn yn egluro sut bydd y digwyddiadau yma yn cael ei redeg, a thrafod y gweithgareddau grwp a’r cyfweliad 1:1 bydd yn cael ei gyflwyno i chi ar y dydd. Mi fyddwn hefyd yn egluro ymroddiad ymarferwyr clinigol, darlithwyr academaidd a mewnbwn defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr ac aelodau o’r cyhoedd.
Visit website